Daeareg Mynydd Helygain

Disgrifir Mynydd Helygain yn ‘llwyfandir calchfaen’, ond mae’r ddaeareg yn fwy cymhleth o lawer na hynny. Ceir yma haenau o siert, grut melinfaen, clai, tywod a glo.

Calchfaen Helygain

Môr trofannol

Ffurfiwyd y calchfaen 340 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan roedd môr trofannol bas yn gorchuddio’r holl ardal. Tyfodd haen o gregyn creaduriaid môr ar wely’r môr dros filoedd o flynyddoedd.

Fe newidiodd yr hinsawdd yn raddol a ffurfiodd haenau eraill drostynt yn ystod miliynau o flynyddoedd nes gwasgu’r cregyn i ffurfio calchfaen. Ceir llawer o ffosiliau planhigion ac anifeiliaid môr yn y calchfaen.

Môr trofannol

Fideo’r Clwb Ogofeydd

Trawstoriad daearegol o Fynydd Helygain