Hela Ffosiliau

Os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ffosiliau yn y calchfaen hyd heddiw. Lle da i chwilio amdanyn nhw ydy wrth y sypiau o greigiau ar waelod y brigiadau o galchfaen. Byddwch yn ofalus.

Peidiwch â gwneud casgliadau mawr o ffosiliau, mae casglwyr eisoes wedi lleihau nifer y ffosiliau sydd ar gael yma.

Ffosiliau

Braciopodau

Edrychwch am weddillion braciopodau, sef pysgod cragen morol cynnar sydd â dwy gragen. Cliciwch am lun mwy

Grinoidau

Gallwch ddod o hyd i grinoidau hefyd. Roedden nhw’n debyg i blanhigion canghennog, ond perthynas i’r fôr ydyn nhw. Yn arferol, y darnau bach silindraidd sy’n gwneud coes y crinoid yw’r cyfan sydd i’w weld. Cliciwch am lun mwy