Chwarela ar Fynydd Helygain

Bu chwarela am gerrig ar Fynydd Helygain am ganrifoedd. Chwareli bach oedd y rhai cynnar gyda’r bobl yn cloddio’r graig gan ddefnyddio offer syml fel morthwylion, trosolion, a lletemau. Câi’r bobl leol ganiatâd i fynd â’r cerrig i adeiladu eu cartrefi.

Chwareli cornfaen neu siert oedd y rhai masnachol cyntaf. Aed â’r cynnyrch hwn i weithfeydd crochenwaith Swydd Stafford i’w ddefnyddio i wneud llestri. Bu cloddio am ddarnau mân o galchfaen hefyd, ehangodd hyn o’r 17 ganrif ymlaen pan ddaeth yr arfer o chwalu calch i godi ffrwythlondeb y tir. Codwyd odynnau calch yn agos at y chwareli. Yn y blynyddoedd cynnar, busnesau bach lleol a theuluol oedd chwareli Mynydd Helygain , oherwydd diffyg cludiant. Ac, er bod rhai cynlluniau uchelgeisiol am lwybrau rhaffau yn yr awyr ac am gysylltiadau rheilffyrdd, y ceffyl a’r drol oedd y prif ddull o gludo nwyddau hyd at yr 20fed ganrif. Dim ond ar ôl i drafnidiaeth ffyrdd ddod i fodolaeth y daeth y posibilrwydd o chwarela ar raddfa fawr. Nid yw pob calchfaen sydd ar y mynydd yr un fath. Roedd ychydig o chwareli’n cynhyrchu Aberdo neu galchfaen hydrolig i’w ddefnyddio mewn sment sy’n caledu o dan y dŵr ac sy’n dda i adeiladu pontydd a dociau. Roedd chwareli eraill yn cynhyrchu ‘Marmor’ Helygain, sy’n garreg las, tywyll yn llawn ffosiliau ac y gellir ei loywi fel gwir farmor. Roedd galw amdano i wneud cerrig coffa. Erbyn hyn mae’r chwareli anferth a fecaneiddiwyd yn darparu dros filiwn o dunelli o gerrig ac agreg i Ogledd Cymru ac i Ogledd Orllewin Lloegr bob blwyddyn.

Pant y Pwll Dŵr – Chwarel gyfoes sy’n gweithio