O ble daeth y plwm?

Oherwydd symudiadau’r ddaear holltodd y creigiau a gwthio’r tir ar i fyny. Rhedodd yr hydoddiannau, oedd yn llawn o fwynau, i mewn i’r agennau oedd yn y calchfaen gan ffurfio gwythiennau o blwm ac o arian. Roedd y creigiau meddalach oedd ar yr wyneb yn cael eu herydu gan adael y calchfaen yn agored ar y tir uchel gan ffurfio’r llwyfandir calchfaen a welwn ni yma heddiw.

Ar ben y tir ac o dan y tir, mae yna nodweddion sy’n hynod i’r ardaloedd calchfaen; creigiau moel a chymalog yn brigo i’r wyneb, gwelyau ffosilau, pridd tenau ac ychydig iawn o ddŵr ar yr wyneb. Mae’r carbon deuocsid sydd yn y glaw yn toddi’r calchfaen wrth i’r dŵr ymdreiddio drwy’r agennau, ac o’r herwydd ffurfir ceudyllau, ogofeydd a llynnoedd tanddaearol. Yr un amlycaf yw’r llyn tanddaearol enfawr a elwir yn geunant Powell’s Lode sydd o dan Rhosesmor.

Oriel