Dyfyniadau Ogofwyr

9th May 2014

Ceudwll Gwythïen Powell o dan Rhosesmor

“Mae llyn dwfn yn y ceudwll hwn, a ffurfiwyd yn naturiol. Nid yw’r llyn i’w weld yn y llun am ei fod y tu ôl i’r camera. Roedd rhaid inni ddringo i lawr am 400 troedfedd yn fertigol drwy hen weithfeydd cloddio a cherdded am 4 milltir drwy hen dwneli. Roedd y daith yna ac yn ôl yn waith diwrnod cyfan.”

Cris Ebbs

Y ffotograff gan Cris Ebbs


Y ceudyllau calchfaen o dan Hendre

“Wrth gloddio am galchfaen o safon uchel, crëwyd cyfres o geudyllau roedd y mwynwyr yn eu galw yn ‘Chwarel’. Aeth llawer o’r calchfaen i gwmni Pilkingtons i wneud gwydr. I’r sawl sy’n archwilio mwyngloddiau heddiw, lleoedd diddorol dros ben yw’r ceudyllau am eu bod yn eang ac yn drawiadol. Ar hyd a lled y siambrau gwelir hen wagenni, darnau o beiriannau, hen bapurau newydd a phacedi sigarét o’r 1960au.”

Cris Ebbs

Y ffotograff gan Paul Deakin


Cyffordd Twnnel y Milwr (ar y dde) gyda Thwnnel Gangen Rhosesmor

“I gyrraedd y pwynt hwn, cerddasom tua’r gogledd am un filltir o Siafft Olwyn Goch yn Hendre ar hyd Twnnel y Milwr, wedyn cerdded i’r dwyrain i fyny Twnnel Gangen Rhosesmor am filltir arall. Pan fydd hi’n wlyb mae’r dŵr yn llifo dros y rheiliau yn y prif dwnnel gan wneud cerdded yn anodd ond mae cael gweld y cyfoeth o hen arteffactau mwyngloddio yn werth yr ymdrech.”

Cris Ebbs

Y ffotograff gan Paul Deakin


Edrych i fyny’r boncen yn Gwythien Powell o dan Rhosesmor

no images were found

“Ar ôl tynnu’r holl fwyn o’r wythïen yr enw ar y gofod a adewir yw poncen. Mae’r llun yn dangos cyntedd mynedfa a’r olygfa o waelod y boncen, sy’n ymestyn bron yn fertigol am 200 troedfedd. Mae llawer iawn yma i’r archwiliwr mwyngloddiau, gyda’r ponciau agored a chynteddau o uchder gwahanol drwy’r gweithfeydd.”

Cris Ebbs

Y ffotograff gan Paul Deakin


Llyn Gwythien Powell

“Roedd dwr y llyn yn wyrddlas hudol. Mae’r llyn o leiaf 200 troedfedd o dan lefel y môr. Mae’n rhaid bod yna anferth o geudwll sydd heb ei archwilio yn gorwedd yn rhywle yn ddwfn o danodd.”

Cris Ebbs

Y ffotograff gan Paul Deakin