Mae ail gyfres o ddyfyniadau Ogofawyr

20th May 2014

“Oherwydd bod cynllun y twneli draenio’n anghyffredin, rhaid mynd i mewn o’r ochr isaf yn aml iawn. Dyma ysgolion sy’n braenu’r araf, ac yn ffordd ddiddorol i mewn i’r hen rannau o’r gwaith, ond mae angen sgiliau arbennig a llawer o ddewrder hefyd!”

Dr Dave Merchant


“Yn aml, roedd Twnnel y Milwr yn rhedeg drwy dir gwael oedd â chroestoriadau o ffawtiau naturiol yn y calchfaen. Dyma rwydwaith o drawstiau dur a rheiliau a ddefnyddiwyd i ddiogelu yn erbyn cwympiad.”

Dr Dave Merchant


“Mae’r gwaith calchfaen sydd o dan bentref Hendre yn lle unigryw a rhyfeddol. Mae ogofwyr a phobl sy’n darganfod mwyngloddiau wedi arfer cropian a phlygu ar hyd dwneli cul, ond mae bod mewn gofod mor enfawr nad yw golau’r hetiau yn taro’r wal bellaf yn eu syfrdannu. Oni bai am y fflach o olau o’r nenfwd gwyn, byddech yn meddwl eich bod yn yr awyr agored eto. ”

Dr Dave Merchant


“Mae ceudwll naturiol Powell’s Lode ar ben y rhestr o bethau i’w gweld. Er bod yr hanner isaf yn llawn o wastraff y cloddio, dyma un o’r siamberi mwyaf yn y wlad. O ddringo’r polyn dewch i gyfres o weithfeydd a cheudyllau i’r gogledd, ac mae hwn yn lle gwych am luniau hefyd.”

Dr Dave Merchant


“Mae dyfroedd dwfn, glas, clir fel grisial sydd yn llyn Powell’s Lode yn dawel ac eto’n ddychrynllyd hefyd. Ni ŵyr neb pa mor ddwfn yw’r llyn. Roedd y mwynwyr oedd yn ceisio mesur ei ddyfnder yn cael eu taflu o’r rafft gan y ffrydau cryfion o ddŵr oedd yn tynnu’r llinellau. Mae yma her i ffotograffwyr hefyd, a llawer o gyfarpar goleuadau fflach DIY tanddwr wedi’u defnyddio am y tro cyntaf a’r tro olaf yn y llyn hwn”

Dr Dave Merchant


“Dyma ddringo’n uchel yn yr hen haenau sydd uwchben twnnel cangen Rhosesmor ar y ffordd i lefel Helygain. Mae’r darnau hyn o ‘lawr ffug’ yn edrych yn frawychus ond yn fwy diogel o lawer na’r rhai sy’n gyfan a ‘r ddisgynfa oddi tanodd allan o’r golwg, nes iddynt gwympo! Rydym yn hapusach o lawer o allu gweld beth sydd yma.”

Dr Dave Merchant


“Mae’r hen weithfeydd yn ddrysfa o dwneli sydd â thoi isel, a’r llwybrau a dreuliwyd gan ogofwyr yn y llawr clai yn eich arwain. O gwmpas, gwelir olion yr hen weithwyr ers talwm; ceibiau, rhawiau, tuniau bwyd a hen esgidiau. Mae’r mwynfeydd yn diogelu’u coffadwriaeth yn well na all dim sydd ar yr wyneb ei wneud.”

Dr Dave Merchant


“Yn y gweithfeydd Twnnel Helygain sy’n uwch ac yn hyn gallwn ddod o hyd i lawer o arteffactau prin fel yr hen gar rheiliau pren hwn sydd mewn cyflwr da. Mae’n chwith meddwl bod y dyn diwethaf a welodd hwn wedi cario cannwyll.”

Dr Dave Merchant


“Dyma’r criw hapus a blinedig ar eu taith gron gyntaf i dwnnel Helygain. Roedd hwn yn ddiwrnod cyfan o deithio drwy deg milltir o dwneli. Nid ni oedd y bobl gyntaf i gerdded yn y lle hwn ond mae’r rhai a aeth o’n blaenau wedi marw ers talwm. Wrth i’w byd nhw ddadfeilio’n araf, mae cadw’u gwaith drwy gyfrwng lluniau a dogfenni yn bwysicach fyth. Mae beth sydd o dan eich traed yn well na silff unrhyw amgueddfa.”

Dr Dave Merchant