Helygain yn Oes Fictoria Bywyd yn ardal y pyllau plwm

Ar ddiwedd yr haf a’r hydref 2014, gwirfoddolodd dros 40 o aelodau’r gymuned leol i helpu creu ffilm fer sy’n dehongli bywyd y gymuned mwyngloddio ar Fynydd Helygain yn oes Fictoria. Bu plant ifanc, pobl ifanc ac oedolion yn cydweithio o dan gyfarwyddyd Polly Snape a’r cwmni ffilmiau Minimal Media i geisio ail greu naws Helygain yn Oes Fictoria a’r cyfnod mwyngloddio. Yn ein barn ni, cawsant hwyl arbennig arni. Edrychwch ar y ffilm i farnu dros eich hun.