Dewch i weld Mynydd Helygain a mwynhau’r golygfeydd gwych dros Aber y Ddyfrdwy a thua Bryniau Clwyd. Ni chafodd y dirwedd wyllt agored hon ei chau erioed ac mae’n dal yn dir comin. Mae tua dau gan eiddo yn dal hawliau tir comin gan gynnwys hawliau pori, a cheir dros 1500 o ddefaid yn pori’r comin gan gadw’r eithin a’r rhedyn o dan reolaeth a chynnal cymeriad agored y dirwedd.
Cewch grwydro’n rhydd ar y Comin ond mae nifer o lwybrau cyhoeddus yma hefyd a grëwyd gan bobl wrth eu bywyd beunyddiol ac ar eu ffordd i’r gwaith, yr ysgol neu’r capel a’r eglwys. Ar y Llwybr Plwm a Chalchfaen cewch olwg ar ran ganol y Comin lle gwelwch rai creigiau diddorol a thystiolaeth o gloddio am blwm a chwarela. Dyma le da i weld y blodau arbennig sy’n tyfu ar y comin.
Yn yr Adran Dysgu cewch lawer o wybodaeth am gloddio am blwm, chwarela a bywyd ar Fynydd Helygain ers talwm. Hefyd cewch flasu gemau a gweithgareddau hwyliog.
Eiddo Stadau Grosvenor yw Comin Mynydd Helygain a dynodwyd yn Ardal o Gadwraeth Arbennig, felly cofiwch ddarllen y Cod Ymddygiad cyn eich ymweliad.
Cod Comin Helygain
Rhybudd: Cymerwch ofal yn ymyl hen weithfeydd cloddio. Mae nifer o siafftau pyllau ar hyd a lled Comin Helygain mewn sawl cyflwr gwahanol o ran eu diogelwch. Mae llawer yn ddwfn ac yn disgyn yn syth. Gofynnir ichi roi gwybod am unrhyw siafftau a ail-agorwyd i Swyddfa Stad Grosvenor:
The Estate Manager, Eaton Estate Office, Eccleston, Chester CH4 9ET
Rhif ffôn: 01244 684400
Lluniaeth
Beth am orffen eich taith ar Fynydd Helygain gyda phaned, llymaid neu bryd o fwyd?
Sylwch y gall yr oriau agor newid a gall tafarnwyr newid felly cofiwch daro golwg ar y wefan neu ffonio o flaen llaw os oes modd.

The Blue Bell Inn, Halkyn
- Gwefan: http://www.bluebell.uk.eu.org/
- Tel: 01352-780309
- Ar agor o 5pm Llun, Mercher, Iau a Gwener (ar gau dydd Mawrth)
- Ar agor o ganol dydd Sad a Sul
- Teithiau cerdded am ddim dair gwaith yr wythnos o’r dafarn (gwelwch y wefan am wybodaeth)

Pet Cemetery Tea Rooms
- Gwefan: http://petfuneralservices.co.uk/tearooms-in-flintshire.html
- Tel: 01352 710500
- Ar agor: 8.30am – 5pm yn ddyddiol
- Yn gweini bwyd

The Britannia Inn, Halkyn
- Tel: 01352 781564
- Ar agor 12.00-11.00pm yn ddyddiol
- Yn gweini bwyd

The Red Lion, Rhosesmor
- Tel: 01352 780862
- Ar agor Llun – Gwener o 4pm ymlaen
- Ar agor o ganol dydd ar Sad a Sul

The Crooked Horn Inn, Brynford
