Croeso i dir agored a gwyllt Mynydd Helygain. Bu pobl yn cloddio yma am blwm ac am galch am dros 2,000 o flynyddoedd, gan greu cymunedau clos a’r dirwedd rydym yn ei thrysori gymaint heddiw.
Helygain oedd un o’r cynhyrchwyr plwm mwyaf ym Mhrydain. O dan y mynydd gorwedda rhwydwaith anferth o siafftiau a thwneli a gloddiwyd gan genedlaethau o fwynwyr oedd yn dilyn y gwythiennau plwm. Bu calchfaen hefyd o bwys i adeiladu, creu gwrtaith a sement a gwneud gwydr, ac mae’n dal hanfodol heddiw yn y diwydiant adeiladu.
Awn yn ol mewn amser i weld sut cafodd y calchfaen ei osod i lawr yn y dechrau. Yna awn am dro o dan y ddaear i weld sut mae odyn galch yn gweithio, taro golwg ar chwarel brysur, a darganfod y math o fywyd oedd gan fwynwyr chwarelwyr a’u teuluoedd ar Fynydd Helygain.
Eiddo Stadau Grosvenor yw Comin Mynydd Helygain, a dynodwyd yn ardal o Gadwraeth Arbennig.
Rydym wrthi’n dal i greu’r wefan hon. Edrychwch ar y safle o dro i dro, bydd gwybodaeth newydd yn cael ei hychwanegu’n rheolaidd.