Helygain oedd un o’r cynhyrchwyr mwyaf a phwysicaf o blwm ym Mhrydain gan gynhyrchu dros 21,000 tunnell o fwyn plwm ar anterth y cynhyrchu yn 1934. O dan y mynydd, gorwedd rhwydwaith anferth o siafftiau a dros 62 milltir o dwneli. Yn dal o dan y ddaear mae hen hetiau ffelt, canhwyllau, a bwcedi pren sydd heb eu cyffwrdd ers blynyddoedd yn ogystal ag offer mwy diweddar.
Roedd y gwythiennau oedd ar yr wyneb yn hawdd eu gweithio gan ddefnyddio offer llaw yn unig. Ond pan gynyddodd y galw am blwm fe gynyddodd yr ymdrechion i dynnu’r mwyn o’r ddaear gan ddilyn y gwythiennau yn ddyfnach o dan y ddaear. Tân a ddefnyddid i agor y graig nes daeth powdr gwn yn 1700. Roedd hyn yn golygu bod modd creu twneli yn gyflymach, ond roedd y peryglon yn fwy hefyd. O 1878 ymlaen daeth y ffrwydron uchel, sef dynameit, roedd hyn yn fwy effeithiol ac yn fwy diogel.
Wrth i’r mwyngloddiau ddyfnhau, roedd dŵr yn broblem ddifrifol. Yn yr 1800au, defnyddid peiriannau pwmpio i orfodi’r dŵr i’r wyneb ond roedd gan hyd yn oed y peiriannau anferth hyn eu cyfyngiadau. Petai Helygain heb fod yn agos at y môr – gan ganiatáu gyrru twneli draenio dyfnion – mae’n bur debyg y byddai mwyngloddio yn Helygain wedi peidio. Yn 1875, gyrrwyd Twnnel Helygain o’r Fflint ac o dan y mynydd o bwynt oedd 180 troedfedd uwchben lefel y môr. Defnyddid y twnnel i ddraenio nifer o fwyngloddiau a chaniatáu iddynt ailagor ac ailddechrau cynhyrchu.
Yr ateb terfynol oedd Twnnel y Milwr, a yrrwyd i mewn o lefel y môr. Roedd hyn yn golygu bod mwyngloddio proffidiol yn gallu digwydd er gwaethaf gostyngiad prisiau plwm yn 1957. Ond roedd mewnforio plwm rhad yn andwyol ac fe gaeodd y mwynglawdd olaf yn 1987 pan ddaeth bron 2000 o flynyddoedd o fwyngloddio plwm i ben yn Helygain.