Darganfod Mynydd Helygain

Dewch i weld Mynydd Helygain a mwynhau’r golygfeydd gwych dros Aber y Ddyfrdwy a thua Bryniau Clwyd. Ni chafodd y dirwedd wyllt agored hon ei chau erioed ac mae’n dal yn dir comin. Mae tua dau gan eiddo yn dal hawliau tir comin gan gynnwys hawliau pori, a cheir dros 1500 o ddefaid yn pori’r comin gan gadw’r eithin a’r rhedyn o dan reolaeth a chynnal cymeriad agored y dirwedd.

Cewch grwydro’n rhydd ar y Comin ond mae nifer o lwybrau cyhoeddus yma hefyd a grëwyd gan bobl wrth eu bywyd beunyddiol ac ar eu ffordd i’r gwaith, yr ysgol neu’r capel a’r eglwys. Ar y Llwybr Plwm a Chalchfaen cewch olwg ar ran ganol y Comin lle gwelwch rai creigiau diddorol a thystiolaeth o gloddio am blwm a chwarela. Dyma le da i weld y blodau arbennig sy’n tyfu ar y comin. Yn yr Adran Dysgu cewch lawer o wybodaeth am gloddio am blwm, chwarela a bywyd ar Fynydd Helygain ers talwm. Hefyd cewch flasu gemau a gweithgareddau hwyliog. Eiddo Stadau Grosvenor yw Comin Mynydd Helygain a dynodwyd yn Ardal o Gadwraeth Arbennig, felly cofiwch ddarllen y Cod Ymddygiad cyn eich ymweliad.

Cod Comin Helygain

common_code_icon
Rhybudd: Cymerwch ofal yn ymyl hen weithfeydd cloddio. Mae nifer o siafftau pyllau ar hyd a lled Comin Helygain mewn sawl cyflwr gwahanol o ran eu diogelwch. Mae llawer yn ddwfn ac yn disgyn yn syth. Gofynnir ichi roi gwybod am unrhyw siafftau a ail-agorwyd i Swyddfa Stad Grosvenor: The Estate Manager, Eaton Estate Office, Eccleston, Chester CH4 9ET Rhif ffôn: 01244 684400

Lluniaeth

Beth am orffen eich taith ar Fynydd Helygain gyda phaned, llymaid neu bryd o fwyd?

Sylwch y gall yr oriau agor newid a gall tafarnwyr newid felly cofiwch daro golwg ar y wefan neu ffonio o flaen llaw os oes modd.
explore_halkyn_poi_bluebell

The Blue Bell Inn, Halkyn

  • Gwefan: http://www.bluebell.uk.eu.org/
  • Tel: 01352-780309
  • Ar agor o 5pm Llun, Mercher, Iau a Gwener (ar gau dydd Mawrth)
  • Ar agor o ganol dydd Sad a Sul
  • Teithiau cerdded am ddim dair gwaith yr wythnos o’r dafarn (gwelwch y wefan am wybodaeth)
explore_halkyn_poi_petcemetery

Pet Cemetery Tea Rooms

explore_halkyn_poi_britannia

The Britannia Inn, Halkyn

  • Tel: 01352 781564
  • Ar agor 12.00-11.00pm yn ddyddiol
  • Yn gweini bwyd
explore_halkyn_poi_redlion

The Red Lion, Rhosesmor

  • Tel: 01352 780862
  • Ar agor Llun – Gwener o 4pm ymlaen
  • Ar agor o ganol dydd ar Sad a Sul
explore_halkyn_poi_crookedhorn

The Crooked Horn Inn, Brynford

explore_halkyn_poi_minersarms

The Miner’s Arms Rhes-y-Cae